Joshua 14

Rhannu'r tiroedd i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen

1Dyma gofnod o'r ffordd gafodd y tir yn Canaan ei rannu rhwng pobl Israel gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. 2Cafodd y tir ei rannu rhwng y naw llwyth a hanner drwy daflu coelbren, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses. 3Roedd Moses wedi rhoi tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen i ddau lwyth a hanner, ond doedd e ddim wedi rhoi tir i lwyth Lefi. 4Roedd disgynyddion Joseff, ar y llaw arall, yn cael eu cyfrif fel dau lwyth – Manasse ac Effraim. Doedd llwyth Lefi ddim i gael tir. Roedden nhw i gael rhai trefi arbennig i fyw ynddyn nhw, gyda'r tir o'u cwmpas yn borfa i'w hanifeiliaid.

5Felly dyma bobl Israel yn rhannu'r tir yn union fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses.

Rhoi Hebron i Caleb

6Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti'n cofio beth ddwedodd yr Arglwydd wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni'n dau, yn Cadesh-barnea. 7Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi'n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl. a 8Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i'r Arglwydd fy Nuw. 9A'r diwrnod hwnnw dyma Moses yn addo ar lw: ‘Bydd y tir lle buoch chi'n cerdded yn cael i roi i ti a dy deulu am byth, am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon i'r Arglwydd dy Dduw.’ b 10Ac mae'r Arglwydd wedi cadw ei addewid. Dyma fi, yn dal yn fyw, bedwar deg pum mlynedd yn ddiweddarach. Dyna faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i'r Arglwydd siarad â Moses pan oedd pobl Israel yn crwydro yn yr anialwch. Dw i'n wyth deg pum mlwydd oed bellach, 11ac yn dal mor gryf ac oeddwn i pan anfonodd Moses fi allan! Dw i'n dal i allu ymladd a gwneud popeth roeddwn i'n ei wneud bryd hynny. 12Felly rho i mi'r bryniau wnaeth yr Arglwydd ei haddo i mi. Mae'n siŵr y byddi'n cofio fod disgynyddion Anac yn byw yno, mewn trefi caerog mawr. Ond gyda help yr Arglwydd bydda i'n cael gwared â nhw, fel gwnaeth yr Arglwydd addo.”

13Felly dyma Josua yn bendithio Caleb fab Jeffwnne, a rhoi tref Hebron iddo. 14Mae disgynyddion Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad yn dal i fyw yn Hebron hyd heddiw, am ei fod wedi bod yn ffyddlon i'r Arglwydd, Duw Israel. 15Yr hen enw ar Hebron oedd Ciriath-arba, wedi ei enwi ar ôl Arba oedd yn un o arwyr yr Anaciaid.

Ac roedd heddwch yn y wlad.

Copyright information for CYM